Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag Eiriolaeth o dan ran 10 a rhannau cysylltiedig o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Cynnwys 

 

1.  Rhaglith

 

Tudalen  2

2.  Diben

 

Tudlaen 3

3.  Cyd-destun

 

Tudlaen 4

4.  Egwyddorion

 

Tudalen 4

5.  Manteision Eiriolaeth

 

Tudalen 5

6. Beth yw eiriolaeth?

 

Tudlaen 6

7.  Pam y mae eiriolaeth yn bwysig?

 

Tudalen 6

8.  Beth yw’r gwahanol fathau o eiriolaeth?

 

Tudalen 7

9. Eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo ac eiriolaeth heb ei chyfarwyddo

 

Tudalen 8

10.  Pryd y dylai awdurdod lleol ystyried anghenion eiriolaeth unigolion?

 

Tudalen 8

11.  O dan ba amgylchiadau y gall fod angen gwasanaethau eiriolaeth ar unigolyn?

 

Tudalen 12

12.  Pa rwystrau sy’n gallu effeithio ar allu unigolion i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn?

 

Tudalen 13

13.  O dan ba amgylchiadau y bydd yn amhriodol i unigolyn weithredu fel eiriolwr?

 

Tudalen 14

14.  Diogelu

 

Tudalen 15

15. Comisiynu Gwasanaeth Effeithiol

 

Tudalen 15

16.  Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli

 

Tudalen 16

17.   Codi ffioedd am eiriolaeth

 

Tudalen 17

18.  Ystyried Amddifadu o Ryddid

 

Tudalen 17

19. Gwasanaethau Eiriolaeth sydd eisoes yn bodoli

 

Tudalen 18

20. Eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant penodedig eraill

 

Tudalen 18

21. Dewis eiriolwr

 

Tudalen 19

22. Sicrhau Gwasanaethau Effeithiol

 

Tudalen 23

Atodiad1: Rôl yr eiriolwr proffesiynol annibynnol

 

Tudalen 25

Atodiad 2: Rôl yr awdurdod lleol yn cynorthwyo’r eiriolwr

 

Tudalen 27

 

 

 


 

Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag Eiriolaeth o dan ran 10 a rhannau cysylltiedig o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

 

Cyhoeddir o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

 

(Teitl byr: Cod Ymarfer ar Eiriolaeth)

 

 

1.   Rhaglith

 

1.  Cyhoeddir y Cod Ymarfer ar Eiriolaeth hwn (y Cod) o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

2.   Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/pdfs/anaw_20140004_we.pdf.

 

3.   Wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae’n rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â gofynion y Cod hwn. Nid yw adran 147 (Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y Cod hwn. Yn ogystal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir yma.

 

4.   Yn y Cod a'r canllawiau statudol, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel “rhaid” neu “ni chaniateir/rhaid...beidio”. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel “gall” neu “dylai/ni ddylai”.

 

5.   Dylid darllen y Cod hwn ochr yn ochr â phob cod ymarfer perthnasol a gyhoeddir o dan y Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion eiriolaeth pobl pan fydd awdurdod lleol yn arfer swyddogaeth benodol mewn perthynas â’r person hwnnw.Dylid rhoi sylw penodol i Ran 2 (Swyddogaethau cyffredinol), Rhan 3 (Asesu anghenion unigolion), Rhan 4 (Diwallu anghenion), Rhan 5 (Codi ffioedd ac asesiadau ariannol) yn ogystal â chanllawiau statudol a gyhoeddir o dan Ran 7 (Diogelu) a Rhan 9 (Cydweithrediad a phartneriaeth) o’r Ddeddf.

 

6.   Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynorthwyo’r gwaith o weithredu’r Ddeddf drwy broses sy’n ymgysylltu’n llawn â’n rhanddeiliaid. Elfen ganolog o’r dull gweithredu hwn yw’r broses o sefydlu grwpiau technegol sy’n cynnwys cynrychiolwyr sydd â’r arbenigedd, y wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol perthnasol i weithio gyda swyddogion ar y polisi manwl sydd ei angen i ddatblygu’r cod ymarfer a fydd yn ei dro yn gwireddu’r dyheadau polisi sy’n sylfaen i’r Ddeddf. Mae’r cod hwn yn un o ganlyniadau’r ymarferiad cyd-gynhyrchu. 

 


 

2. Diben

 

7.    Mae’r Cod hwn yn nodi’r gofynion canlynol ar gyfer awdurdodau lleol:-

 

a)   sicrhau bod mynediad at wasanaethau a chymorth eiriolaeth ar gael fel bod unigolion yn gallu ymgysylltu a chyfranogi pan fydd awdurdodau lleol yn arfer dyletswyddau statudol mewn perthynas â nhw; a

 

b)   threfnu bod eiriolwr proffesiynol annibynnol yn hwyluso cyfraniad unigolion mewn amgylchiadau penodol. 

 

8.   Mae’r dyletswyddau cyffredinol o dan adran 6 o’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf:

 

a) i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau pobl, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny.

 

9.   Yn ogystal, mae’n rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf:-

 

a)  roi sylw i bwysigrwydd darparu cynhorthwy er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

 

10.    Mae’r dyletswyddau cyffredinol hyn, ynghyd ag Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig o dan adran 7 o’r Ddeddf yn hanfodol i ddeall ac asesu canlyniadau llesiant pobl; yr hyn sy’n bwysig i bobl; ac anghenion gofal a chymorth pobl i’w galluogi i sicrhau eu canlyniadau llesiant personol.  

 

11.   Mae’r Cod hwn yn nodi:

 

·         dewis pobl i gael rhywun i eirioli drostynt;

 

·         fframwaith clir i gefnogi a grymuso unigolion i wneud dewisiadau cadarnhaol ar sail gwybodaeth;

 

·         cydnabyddiaeth eglur o fanteision eiriolaeth;

 

·         yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael i bobl;

 

·         yr adegau allweddol pan fo’n rhaid i angen pobl am eiriolaeth gael ei asesu;

 

·         pryd y mae’n rhaid darparu eiriolaeth annibynnol;

 

·         yr amgylchiadau sy’n effeithio ar angen pobl am eiriolaeth;

 

·         yr amgylchiadau pan fo’n amhriodol i rai pobl fod yn eiriolwyr;

 

·         y trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eiriolaeth; a

 

·         chodi ffioedd.

 

3.   Cyd-destun

 

12.    Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu fframwaith statudol i gyflawni rhwymedigaeth Llywodraeth Cymru i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau.

 

13.    Bydd yn trawsnewid y modd y caiff y gwasanaethau cymdeithasol eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi mwy o lais a rheolaeth iddynt. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith ar gyfer pobl hefyd yn rhoi mwy o gysondeb ac eglurder i’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff yr awdurdodau lleol a’r cyrff sy’n bartneriaid iddynt, y llysoedd a’r farnwriaeth. 

 

14.    Mae’r Ddeddf yn hybu cydraddoldeb, yn gwella ansawdd gwasanaethau a’r wybodaeth a gynigir i bobl, gan roi pwyslais ar y cyd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

 

 

4.   Egwyddorion

 

15.   Mae Pennod 2 yn nodi’r dyletswyddau penodol o dan y Ddeddf i ganfod barn, dymuniadau a theimladau pobl a darparu cynorthwy i alluogi pobl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

 

16.  Er mwyn bod â llais a rheolaeth, mae’n rhaid i unigolyn allu teimlo ei fod yn bartner cyfartal gwirioneddol wrth ryngweithio â gweithwyr proffesiynol. O ganlyniad, mae gan unrhyw unigolyn hawl i arfer dewis a gwahodd unrhyw eiriolwr i’w gynorthwyo i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau.

 

17.  Un o egwyddorion y Ddeddf yw’r angen i awdurdod lleol ymateb mewn ffordd gyd-gynhyrchiol i amgylchiadau penodol pob unigolyn, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn.  Mae’n rhaid sicrhau bod unigolion a’u teuluoedd yn gallu cyfrannu’n llawn at y broses o ganfod a sicrhau eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddynt.

 

18.  Mae’n rhaid i’r broses sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu hanghenion a’u bod yn gallu cyfrannu’n llawn fel partneriaid cyfartal. Mae’n rhaid i hyn gynnwys galluogi unigolyn i nodi ei fod eisiau cymorth gan rywun arall wrth bwyso a mesur ei opsiynau a gwneud penderfyniadau am ei ganlyniadau llesiant.

 

19. Mae pwysigrwydd y teulu a ffrindiau o ran cynorthwyo person i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn yn hanfodol bwysig. Mae cyfranogi’n llawn yn galluogi’r unigolyn i egluro a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau, gan sicrhau bod ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn cael eu cydnabod ac y gweithredir arnynt; a’i fod yn teimlo ei fod wedi’i rymuso ac yn rheoli’r broses. Un elfen yn unig o fframwaith eirioli effeithiol yw’r teulu a ffrindiau. Mae Pennod 8 yn nodi’r gwahanol fathau o eiriolaeth.

 

20. Rôl allweddol y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth (IAA) o dan Ran 2 o’r Ddeddf fydd darparu gwybodaeth i unigolion am yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael yn eu hardal, a’u cynorthwyo i’w defnyddio os oes angen er mwyn eu helpu i sicrhau eu canlyniadau llesiant. Bydd hyn yn cynnwys cymorth eirioli i ddefnyddio’r Gwasanaeth IAA ei hun.

 

21.    Mae’r Cod penodol hwn ar eiriolaeth yn cyd-fynd â’r rhwymedigaethau i sicrhau llais a rheolaeth gref, ac mae’n cael ei ategu gan yr holl godau ymarfer perthnasol a gyhoeddir o dan y Ddeddf. Mae’n galluogi awdurdodau lleol ac unigolion, mewn partneriaeth wirioneddol, i ystyried yr ystod o gymorth eiriolaeth sydd ar gael a rhoi’r trefniadau perthnasol ar waith. Bydd hyn yn cynnwys y gofynion penodol i’r awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol i gefnogi’r unigolyn pryd bynnag y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaeth berthnasol o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r person hwnnw. Nodir swyddogaethau perthnasol ym mharagraff 50.

 

 

5. Manteision Eiriolaeth

 

22.    Dylid ystyried eiriolaeth yn elfen gynhenid o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n sicrhau bod gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar bobl a’u llesiant. Mae eiriolaeth yn helpu pobl i ddeall sut y gallant gyfranogi, cyfrannu a chymryd rhan, a sut y gallant arwain neu gyfarwyddo’r broses os oes modd.

 

23. Drwy eiriolaeth, mae pobl yn bartneriaid gweithredol yn y prosesau gofal a chymorth allweddol sy’n nodi ac yn sicrhau atebion drwy wasanaethau ataliol; gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy; asesu; gofal a chymorth a chynllunio gofal; adolygu a diogelu.

 

24.    Mae’r Ddeddf:-

 

·      yn sicrhau mai’r person a’i ganlyniadau llesiant yw canolbwynt y fframwaith newydd hwn;

·      yn sicrhau bod gan bobl lais a rheolaeth dros sicrhau’r canlyniadau hynny; 

·         yn cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain;  

·         yn mesur llwyddiant y gofal a’r cynorthwy hwn ar sail pob cyfraniad at lesiant; pobl, teuluoedd, cefnogwyr, gwasanaethau ffurfiol ac anffurfiol.

 

25.    Er gwaethaf y rhwystrau y gall pobl eu hwynebu, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gynnwys pobl i’w helpu i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau, eu cynorthwyo i bwyso a mesur opsiynau ac i wneud penderfyniadau am eu canlyniadau llesiant. Mae’r gofynion hyn yn berthnasol, waeth ble mae unigolyn yn byw, gan gynnwys yr ystâd ddiogeled.  

 

 

 

 

 

 

6.   Beth yw eiriolaeth?

 

26.    Mae adran 181(2) yn diffinio “Gwasanaethau eiriolaeth” fel: gwasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth. Yn yr un modd, eiriolaeth yw un o’r enghreifftiau a nodir yn adran 34(2)(e) o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion o dan adrannau 35 i 45 o’r Ddeddf. 

 

27.    Mae eiriolaeth yn un o sawl math o gymorth sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ymdopi â phroblemau bywyd.   

 

 “Advocacy supports and enables people who have difficulty representing their interests, to exercise their rights, express their views, explore and make informed choices.

Independent Advocacy supports the person regardless of the demands and concerns of others. It challenges the causes and effects of injustice, oppression and abuse and upholds human rights.”(OPAAL National Forum, 2008)

“Advocacy is taking action to help people say what they want, secure their rights, represent their interests and obtain services they need.  Advocates and advocacy schemes work in partnership with the people they support and take their side.  Advocacy promotes social inclusion, equality and social justice.”         (Action for Advocacy, 2002)

 

28.    Mae mathau eraill o gymorth yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, cwnsela, ymgyfeillio, mentora a chyfryngu, a gall pob un o’r rhain fod yn ddefnyddiol o dan amgylchiadau gwahanol. Mae’r Cod hwn yn canolbwyntio’n benodol ar eiriolaeth a dyletswyddau awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth eiriolwyr i sicrhau eu canlyniadau llesiant, a chymorth i weithio mewn partneriaeth â phobl berthnasol eraill i sicrhau’r canlyniadau hynny.

 

 

7.   Pam y mae eiriolaeth yn bwysig?

 

29.    Mae eiriolaeth:

 

·         yn diogelu unigolion sy’n agored i niwed neu’n dioddef gwahaniaethu neu unigolion y mae’n anodd darparu gwasanaethau ar eu cyfer;

·         yn siarad ar ran unigolion na allant siarad drostynt eu hunain;

·         yn grymuso unigolion sydd angen llais cryfach drwy eu galluogi i fynegi eu hanghenion eu hunain a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar sail gwybodaeth;

·         yn galluogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth, archwilio a deall eu hopsiynau, a mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau;

·         yn rhoi pob cymorth i bobl wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

 

 

30.   Mae dwy brif thema yn perthyn i eiriolaeth:

 

·         siarad ar ran a siarad gydag unigolion nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, eu helpu i fynegi eu safbwyntiau a gwneud eu penderfyniadau a’u cyfraniadau eu hunain ar sail gwybodaeth; a

·         diogelu unigolion sydd mewn perygl.

 

 

 

8.   Beth yw’r gwahanol fathau o eiriolaeth?

 

31.    Mae sawl math o eiriolaeth ar gael, ac mae gan bob un amcan cyffredin o gynorthwyo unigolion i ddweud eu dweud, cadarnhau eu hopsiynau a mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau. Mae gan bob math o eiriolaeth ei fanteision ei hun a dylai awdurdodau lleol gydnabod a gwerthfawrogi pob math o eiriolaeth. Mae dulliau eirioli wedi’u cyfarwyddo a dulliau heb eu cyfarwyddo ar gael.

 

32.   Mae gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud cyfraniad allweddol at eirioli ar ran unigolion wrth arfer eu gwaith proffesiynol bob dydd. Fodd bynnag, gall y broses o wneud penderfyniadau arwain at wrthdaro buddiannau ar adegau. Bydd angen i weithwyr proffesiynol fod yn effro i sefyllfaoedd lle maent yn credu bod gwrthrychedd neu annibyniaeth y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei thanseilio, neu fod perygl i bobl feddwl hynny. O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid ystyried rolau mathau eraill o eiriolaeth, gan gynnwys:-

 

 

Hunaneirioli –pan fydd unigolion yn cynrychioli ac yn siarad drostynt eu hunain.

 

Eiriolaeth anffurfiol – pan fydd aelodau’r teulu, ffrindiau neu gymdogion yn cynorthwyo unigolyn i fynegi ei ddymuniadau a’i deimladau, sy’n gallu cynnwys siarad ar ei ran o bosibl.

 

Eiriolaeth gyfunol – yn ymwneud âgrymuso grwpiau o unigolion sydd â phrofiadau cyffredin i fynegi barn, dylanwadu ar newid a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

 

Eiriolaeth cymheiriaid– unigolyn sy’n rhannu profiad neu gefndir cyffredin yn eirioli ar ran unigolyn arall.

 

Eiriolaeth dinesydd– partneriaeth un i un hirdymor rhwng unigolyn ac eiriolwr dinesydd sydd wedi’i hyfforddi neu sy’n derbyn cymorth.

 

Eiriolwr gwirfoddol annibynnol – eiriolwr annibynnol a gwirfoddol sy’n gweithio am gyfnod byr neu ar bwnc penodol gydag un neu fwy o unigolion.

 

Eiriolaeth ffurfiol– mae’n gallu cyfeirio at rôl eirioli staff ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a meysydd eraill, lle y bo’n ofynnol i weithwyr proffesiynol ystyried ac ymdrin â dymuniadau a theimladau’r unigolyn yn rhinwedd eu swydd.

 

Eiriolaeth broffesiynol annibynnol – partneriaeth un i un rhwng eiriolwr proffesiynol annibynnol sydd wedi’i hyfforddi i weithio fel eiriolwr proffesiynol am dâl. Gall y gwaith ymwneud ag un pwnc neu bynciau lluosog. Mae’n rhaid i eiriolwyr proffesiynol annibynnol sicrhau bod safbwyntiau unigolion yn cael eu cyfleu yn gywir, waeth beth yw safbwynt yr eiriolwr neu safbwynt eraill ynglŷn â’r hyn sydd o fudd pennaf i’r unigolion. Mae rhagor o wybodaeth am rôl yr eiriolwr annibynnol a rôl yr awdurdod lleol i’w gynorthwyo ar gael yn Atodiad 1. 

 

 

9. Eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo ac eiriolaeth heb ei chyfarwyddo

 

33.   Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng dulliau eirioli wedi’u cyfarwyddo a dulliau heb eu cyfarwyddo. Fel arfer, yr unigolyn sy’n cyfarwyddo’r eiriolwr, hyd yn oed os nad yw wedi ei atgyfeirio ei hun i’r cynllun eiriolaeth. Gyda’i gilydd, gallant sefydlu perthynas a nodi’r materion, yr amcanion a’r canlyniadau eiriolaeth arfaethedig yn unol â dymuniadau, dewisiadau a chydsyniad y defnyddiwr.

 

34.   Mae’n bosibl y bydd angen eiriolaeth heb ei chyfarwyddo pan na fydd yr unigolyn yn cyfarwyddo’r eiriolwr neu’n mynegi dewisiadau a phryderon oherwydd materion yn ymwneud â chyfathrebu a gallu. Eiriolaeth heb ei chyfarwyddo yw:-

 

 “...taking affirmative action with or on behalf of a person who is unable to give a clear indication of their views or wishes in a specific situation.  The non-instructed advocate seeks to uphold the person’s rights; ensure fair and equal treatment and access to services; and make certain that decisions are taken with due consideration for their unique preferences and perspectives.

(Henderson (2006))

 

35.   Gall eiriolwyr nad ydynt yn cael eu cyfarwyddo fabwysiadu agweddau gwahanol tuag at gynrychioli’r unigolyn. Gall yr agweddau hyn fod yn seiliedig ar hawliau dynol, canolbwyntio ar yr unigolyn, ymwneud â gwaith goruchwylio neu weithredu fel tyst neu sylwedydd.

 

 

10.   Pryd y dylai awdurdod lleol ystyried anghenion eiriolaeth unigolion?

 

Yn strategol

 

36.    Mae angen i awdurdodau lleol ddeall a chefnogi’r canlyniadau llesiant y mae pobl am eu cyflawni. Mae’r datganiadau ar ganlyniadau a nodir yn y Cod Ymarfer ar Swyddogaethau Cyffredinol yn pennu’r meysydd allweddol lle mae gofal a chymorth yn gallu gwneud gwahaniaeth i wella canlyniadau llesiant pobl. Maent yn cynnwys:

 

·         Llesiant – Rwy’n gwybod ac yn deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd ar gael i mi ac rwy’n cael y cymorth sydd ei angen arna i, pan rwyf ei angen, yn y ffordd rwyf ei eisiau;

 

·         Sicrhau hawliau Mae fy hawliau yn cael eu parchu, mae gen i lais a rheolaeth, rwy’n rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar fy mywyd, mae fy amgylchiadau unigol yn cael eu hystyried, rwy’n gallu siarad drosof fy hun neu mae gen i rywun i wneud hynny ar fy rhan ac rwy’n cael gofal drwy gyfrwng y Gymraeg os rwyf ei angen.

 

37.   Mae gwasanaethau eirioli yn hanfodol i gynorthwyo pobl i fynd ati i ymgysylltu a chyfrannu at ddatblygiad eu canlyniadau llesiant eu hunain.

 

38.   Atal, oedi neu leihau anghenion – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i gefnogi annibyniaeth a lleihau ac oedi gwaethygiad angen critigol.

 

39.   Mae’r Cod(au) Ymarfer ar Swyddogaethau Cyffredinol (Llesiant, Asesiad o’r Boblogaeth, Atal, Hyrwyddo Mentrau Cymdeithasol a Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy)yn nodi’r gofynion i awdurdodau lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu, amrywiaeth o wasanaethau ataliol. Bydd eiriolaeth yn cyfrannu at y gwaith o atal, oedi neu leihau anghenion gofal a chymorth pobl, a rhaid iddi fod yn rhan o gyd-asesiad yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol o anghenion eu poblogaeth o dan adran 14 o ystod a lefel gwasanaethau ataliol o dan adran 15 o’r Ddeddf. 

 

40.   Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy – dylai pawb gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chynhorthwy ar sut i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Cyn cysylltu â’r awdurdod lleol, mae’n bosibl y bydd angen eiriolaeth ar rai unigolion i’w helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor perthnasol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion o’r fath wrth sicrhau bod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn hygyrch a bod y cymorth priodol ar gael. 

 

41.   Mae’n rhaid sicrhau bod modd nodi anghenion eiriolaeth unigolion pan gysylltir â nhw am y tro cyntaf. Bydd yr unigolion eu hunain neu’r rhai sy’n agos atynt yn nodi’r angen hwn yn aml, ond mae’n rhaid i staff fod â’r sgiliau priodol i adnabod unigolion y mae angen eiriolwr arnynt.

 

42.   Mae eiriolaeth anffurfiol, eiriolaeth gyfunol, eiriolaeth cymheiriaid, eiriolaeth dinesydd ac eiriolaeth wirfoddol annibynnol yn ffynonellau cymorth eiriolaeth da ar gyfer unigolion, gan eu galluogi i ymgysylltu, deall a chymryd rhan yn natblygiad eu canlyniadau llesiant. Fodd bynnag, ni fydd y cymorth hwn ar gael bob amser, a bydd angen eiriolaeth ffurfiol neu eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar adegau.

 

43.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ddefnyddio canlyniadau eu hasesiad ar y cyd o anghenion y boblogaeth i lywio trefniadau partneriaeth o dan Ran 9 ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli. Dylai rhywfaint o’r gwaith hwn ganolbwyntio ar y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau rheng flaen, h.y. i gynorthwyo pobl sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy.

 

44.   Mae trefniadau comisiynu ar y cyd effeithiol yn gwella profiadau unigolion drwy ddefnyddio dull holistaidd sy’n rhwystro dyblygu; yn gwella cyfathrebu rhwng unigolion ac ymarferwyr, gan ddarparu gwasanaethau integredig ac yn sicrhau canlyniadau cyffredin.

 

 

 

 

 

Yn benodol

 

45.   Mae gan awdurdodau lleol brofiad sylweddol o adnabod y ffactorau sy’n effeithio ar allu unigolion i ymgysylltu a chyfrannu at lunio’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau bodlon.

 

46.   Mae pob un o’r codau ymarfer yn nodi’r angen penodol i weithwyr proffesiynol ac unigolion lunio barn ar gyfraniad posibl eiriolaeth.

 

47. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol ar gyfer person nad yw’n gallu goresgyn y rhwystr(au) i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu heb gael cymorth gan unigolyn priodol, ond nad oes unigolyn priodol ar gael.

 

48. Mae cyfranogi yn golygu bod unigolion yn gallu mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau neu fod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn cael eu cynrychioli a’u hystyried; eu bod yn deall eu hawliau a’u hawlogaethau; y broses o wneud penderfyniadau; beth sy’n bwysig iddynt; y canlyniadau llesiant personol y maent am eu sicrhau; y rhwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny, a’r opsiynau a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt. 

 

49. Mae prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu yn cwmpasu’r ystod lawn o swyddogaethau o dan y Ddeddf a restrir yn y tabl isod.

 

50.    Mae’r tabl canlynol yn rhestru’r swyddogaethau lle mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion unigolion ar gyfer cymorth eiriolaeth.

 

 

 

 

Adrannau

Rhan 2 – Swyddogaethau cyffredinol

 

 

Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol

 

14

Gwasanaethau ataliol

 

15

Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector

 

16

Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

 

17

 

 

 

Rhan 3 – Asesu Anghenion Unigolion

 

 

Asesu anghenion oedolion, plant a gofalwyr

 

19; 21; a 24

Cyfuno asesiadau o anghenion

 

28 i 29

 

 

 

Rhan 4 – Diwallu Anghenion

 

 

Dyletswyddau a phwerau i ddiwallu anghenion oedolion, plant a gofalwyr

 

35 i 38; 39;

40 i 45

Taliadau uniongyrchol ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr

 

50 i 53

Llunio, cynnal neu adolygu cynlluniau gofal a chymorth

 

54

Hygludedd cynlluniau gofal a chymorth

 

56

Person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol

 

57

Gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi

 

58

 

 

 

 

 

Rhan 5 – Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol

 

 

Pŵer i osod ffioedd

 

59 i 62

Asesiad ariannol

 

63 i 65

Dyfarniad ynghylch gallu personau i dalu ffi

 

66 i 67

Taliadau gohiriedig

 

68

Codi ffi am wasanaethau ataliol

 

69

Adennill costau

 

70

Creu arwystl dros fuddiant mewn tir

 

71

Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd

 

72

Adolygiadau sy’n ymwneud â chodi ffioedd

 

73

 

 

 

Rhan 7 – Diogelu

 

 

Oedolion sy’n wynebu risg

 

126

Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

 

127

Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risg

 

128

Dyletswydd i hysbysu am blant sy’n wynebu risg

 

130

 

 

 

Rhan 9 – Cydweithrediad a phartneriaeth

 

 

Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad; oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr

 

162

Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad; plant

 

163

Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol

 

164

Hyrwyddo integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd

 

165

Trefniadau partneriaeth

 

166

Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth

 

167

Byrddau partneriaeth

 

168

 

 

 

Rhan 11 – Cwynion a sylwadau

 

 

Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol: materion atodol. Cynorthwyi achwynwyr

 

173

Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc  

 

174

Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc: darpariaeth bellach  

 

175

Sylwadau sy’n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etc   

 

176

Rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau 

 

177

Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau

 

178

 

 

 

11.   O dan ba amgylchiadau y gall fod angen gwasanaethau eiriolaeth ar unigolyn?

 

51.   Mae Pennod 8 yn pennu’r ystod lawn o swyddogaethau awdurdod lleol wrth ystyried rôl eiriolaeth mewn partneriaeth ag unigolyn. Bydd amgylchiadau a chyfnodau newid neu bontio penodol yn arwyddocaol i’r unigolyn, ac mae’n bosibl y bydd ei anghenion eiriolaeth yn cynyddu ar yr adegau hyn. Mae’r amgylchiadau a’r cyfnodau hyn yn cynnwys:-

 

 

·         gwneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith arwyddocaol ar fywyd bob dydd yr unigolyn, gan gynnwys:-

 

a.     asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygiadau;

b.     diogelu

c.      cael hyd i wybodaeth, cyngor a chynhorthwy  

d.     ble mae’n mynd i fyw;

e.     asesu trefniadau gofal a chymorth anffurfiol, neu newidiadau i’r trefniadau hynny

f.       newid o dderbyn gofal a chymorth drwy gynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth os yw’r unigolyn yn ofalwr, i dderbyn gofal a chymorth drwy gymorth llesiant ataliol yn y gymuned.

 

·         pan fydd ffactorau allanol yn effeithio ar drefniadau gofal a chymorth unigolyn, er enghraifft, methiant darparwr; cartref gofal yn cau; trefniadau rheoli neu berchenogi cartrefi gofal yn newid;

 

·         pan fydd amheuaeth bod yr unigolyn mewn perygl o gael ei niweidio neu ei esgeuluso, a’i fod yn destun pryderon diogelu gan gynnwys bod yn destun ymchwiliad o dan adran 126 neu adran 47 o Ddeddf Plant 1989, camau Gorchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion o dan adran 127 neu adroddiad o dan adran 128 neu adran 130;

 

·         wrth baratoi i adael yr ysbyty a dychwelyd i’r gymuned.

 

 

52. Mae sicrhau bod gan unigolion a’r rhai sy’n eu cynorthwyo’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall a chyfrannu’n llawn at y broses o wneud penderfyniadau yn elfen hanfodol o sicrhau eu llesiant. Dylid ymgynghori’n llawn â phawb perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

 

53. Os nad yw partïon yn gallu cytuno ar yr angen i’r awdurdod lleol sicrhau eiriolwr proffesiynol annibynnol, mae’n rhaid hysbysu’r unigolyn am ei hawl i ddefnyddio’r weithdrefn gwyno ac i dderbyn cymorth yn ystod y broses.

 

54. Os yw oedolyn yn cwyno am wasanaethau oedolion, dylai’r awdurdod lleol hysbysu’r achwynydd bod cyngor a chymorth ar gael, gan gynnwys gwasanaethau eirioli o bosibl. Nid yw hyn yn rhwystro awdurdod lleol rhag cynorthwyo oedolyn sy’n cwyno i ddod o hyd i eiriolwr neu ei rwystro rhag trefnu’r cymorth ei hun.   

 

12.  Pa rwystrau sy’n gallu effeithio ar allu unigolion i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn?

 

55.    Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio â phob unigolyn er mwyn ystyried a yw’r unigolyn yn debygol o wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at bennu ei ganlyniadau llesiant a dod i benderfyniad ynglŷn â’i anghenion ar gyfer cymorth eiriolaeth. Bydd y rhwystrau allweddol yn cynnwys materion a sefyllfaoedd a fydd yn amharu ar allu unigolion i:

 

·         ddeall gwybodaeth berthnasol;

 

·         cofio gwybodaeth;

 

·         defnyddio neu bwyso a mesur gwybodaeth;

 

·         mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau.

 

 

Deall gwybodaeth berthnasol

56.   Mae modd cynorthwyo llawer o unigolion i ddeall gwybodaeth berthnasol os yw’n cael ei chyflwyno’n briodol a’i hegluro’n drylwyr.Fodd bynnag, ni fydd rhai unigolion yn gallu deall gwybodaeth berthnasol.

 

 

Cofio gwybodaeth

57.    Os na all unigolyn gofio gwybodaeth yn ddigon hir i allu pwyso a mesur ei opsiynau a gwneud penderfyniadau, mae’n debygol o wynebu rhwystrau i ymgysylltu a chyfrannu at y broses o benderfynu ei ganlyniadau llesiant. 

 

Defnyddio neu bwyso a mesur y wybodaeth fel rhan o’r broses o gymryd rhan

58.    Mae’n rhaid i unigolyn allu pwyso a mesur gwybodaeth er mwyn cyfranogi’n llawn a mynegi dewisiadau neu ddewis rhwng opsiynau. Er enghraifft, bydd rhaid iddo allu pwyso a mesur manteision ac anfanteision symud i gartref gofal neu derfynu perthynas sy’n ei danseilio. Os nad yw’n gallu gwneud hyn, mae’n debygol o wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at y broses o benderfynu ei ganlyniadau llesiant.

 

Cyfleu barn, dymuniadau a theimladau

59. Mae’n rhaid i unigolyn allu cyfleu ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau drwy siarad, ysgrifennu, defnyddio iaith arwyddion neu drwy gyfrwng arall er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau a gwneud blaenoriaethau’n glir. Os nad yw’n gallu gwneud hyn, mae’n debygol o wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at y broses o benderfynu ei ganlyniadau llesiant.

 

60.   Os yw person yn wynebu un neu fwy o’r rhwystrau hyn oherwydd nam meddyliol neu aflonyddu ar y meddwl neu’r ymennydd, mae’n bosibl nad oes gan y person alluedd i wneud penderfyniad, a dylid gwneud asesiad o’i alluedd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Gall hyn effeithio ar y math o eiriolaeth y gellir ei darparu i’r person yn briodol.

 

 

 

13.   O dan ba amgylchiadau y bydd yn amhriodol i unigolyn weithredu fel eiriolwr?

 

61.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio â’r unigolyn er mwyn ystyried a oes unigolyn priodol ar gael sy’n gallu hwyluso cyfraniad yr unigolyn at y broses asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu neu ddiogelu. Mae hyn yn cynnwys tair ystyriaeth benodol, sef na all yr unigolyn fod yn un o’r canlynol:  

 

·         rhywun nad yw’r unigolyn eisiau cael cymorth ganddo;

 

·         rhywun sy’n annhebygol o allu cynorthwyo cyfranogiad yr unigolyn yn ddigonol, neu na fydd ar gael i wneud hynny;

 

·         rhywun sydd wedi’i enwi mewn ymchwiliad i gamdriniaeth neu esgeulustod neu y mae ei weithredoedd wedi dylanwadu ar benderfyniad awdurdod lleol i ystyried camau Gorchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion.

 

62.    Mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud cyfraniad allweddol at eirioli ar ran unigolion wrth arfer eu swyddogaethau proffesiynol bob dydd. Fodd bynnag, gall y broses o wneud penderfyniadau arwain at wrthdaro buddiannau ar adegau. Bydd angen i weithwyr proffesiynol fod yn effro i sefyllfaoedd lle maent yn credu bod gwrthrychedd neu annibyniaeth y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei thanseilio, neu fod perygl i bobl feddwl hynny. O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid ystyried swyddogaethau mathau eraill o eiriolaeth a amlinellir ym Mhennod 7 i sicrhau barn, dymuniadau, teimladau a chanlyniadau llesiant unigolion.

 

 

63.    Disgwylir i unigolion priodol gynorthwyo, cynrychioli a hwyluso cyfranogiad unigolyn wrth sicrhau ei ganlyniadau llesiant. Er mai aelod o’r teulu, ffrind neu rywun sy’n rhan o’r fframwaith cymorth ehangach fydd yr unigolyn hwn yn aml, mae’n debyg y bydd yn anodd i rai pobl gyflawni’r swyddogaeth hon. Er enghraifft, aelod o’r teulu sy’n byw’n bell i ffwrdd ac sydd ond yn cyfarfod â’r person yn achlysurol; priod sydd hefyd yn ei chael yn anodd deall prosesau’r awdurdod lleol; ffrind sy’n mynegi safbwyntiau cryf ei hun cyn canfod safbwyntiau’r unigolyn perthnasol. Nid yw’n ddigon i adnabod y person yn dda. Rôl yr unigolyn priodol yw cynorthwyo ymgysylltiad a chyfranogiad llawn yr unigolyn wrth bennu ei ganlyniadau llesiant.   

 

64.    Dylid parchu dymuniadau unigolyn i beidio â chael ei chynorthwyo gan ffrindiau neu aelodau’r teulu, ac os oes gan yr unigolyn y galluedd, neu os yw’n gymwys i gydsynio, mae’n rhaid dilyn dymuniadau’r unigolyn. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd unigolyn yn dymuno cael ei gynorthwyo gan berthynas oherwydd gwrthdaro buddiannau posibl wrth symud ymlaen.   

 

65.    Os penderfynir nad oes gan unigolyn y galluedd i wneud penderfyniad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon ei bod er budd pennaf yr unigolyn i gael ei gynorthwyo a’i gynrychioli gan yr aelod o’r teulu neu’r ffrind.

 

66.    Wrth reswm, ni fydd yn addas ystyried person yn unigolyn priodol os yw’n cael ei enwi mewn unrhyw ymchwiliad i gam-drin neu esgeuluso oedolyn neu blentyn, neu os yw ei weithredoedd wedi dylanwadu ar benderfyniad awdurdod lleol i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion.

 

14.   Diogelu

 

67.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r angen i helpu i amddiffyn oedolion a phlant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae gan awdurdodau lleol brofiad o gynorthwyo oedolion i benderfynu faint o risg maent yn gallu ei rheoli. Mae Pennod 11 yn nodi amgylchiadau lle mae’n amhriodol i rywun weithredu fel eiriolwr.

 

68.   Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gydweithio â’r unigolyn i ystyried a dod i gasgliad ynglŷn â threfniadau i benodi eiriolwr proffesiynol annibynnol i gynorthwyo a chynrychioli unigolyn sy’n destun ymchwiliad diogelu o dan adran 126 neu adran 47 o Ddeddf Plant 1989, neu sy’n destun trefniadau ar gyfer Gorchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion o dan adran 127 o’r Ddeddf. Os yw eiriolwr proffesiynol annibynnol eisoes wedi’i drefnu o dan y Ddeddf hon neu o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, mae modd defnyddio’r un eiriolwr oni bai bod hynny’n amhriodol.

 

69.   Os oes angen cychwyn ymchwiliad diogelu ar frys, mae modd iddo gychwyn cyn bod eiriolwr yn cael ei benodi, ond mae’n rhaid penodi eiriolwr cyn gynted ag y bod modd. Mae’n rhaid i’r holl asiantaethau diogelu wybod sut i gael gafael ar wasanaethau eirioli a beth yw eu rôl.   

 

70.   Mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn derbyn cymorth yn y maes sensitif hwn sy’n gallu ymddangos yn broses lethol ac yn gallu arwain at rai penderfyniadau anodd iawn. Gall unigolyn y credir iddo gael ei gam-drin neu ei esgeuluso deimlo mor ddigalon, ofnus, llawn embaras neu ofidus nes y bydd eiriolaeth annibynnol a ddarperir o dan y Ddeddf i’w alluogi i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau a chyfranogi’n llawn yn hanfodol bwysig.  

 

 

15. Comisiynu Gwasanaeth Effeithiol

 

71. Gall un awdurdod lleol neu fwy gydgysylltu’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau eirioli ar y cyd neu ar sail ranbarthol. Mae Rhan 9 o’r Ddeddf yn galluogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a phartneriaid perthnasol eraill i sefydlu trefniadau partneriaeth ffurfiol ac anffurfiol a chyfrannu at gronfa gyfun er mwyn gwella llesiant plant ac oedolion.   

 

72. Mae gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ystod o gyfrifoldebau i sicrhau gwasanaethau eirioli ar gyfer unigolion o bob oed. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ystyried sut mae trefniadau comisiynu ar y cyd yn gallu cyfrannu at sicrhau gwerth am arian ar gyfer comisiynwyr a chynaliadwyedd ar gyfer darparwyr.

 

73. Mae trefniadau comisiynu ar y cyd effeithiol yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael sy’n ymateb i anghenion a dewisiadau pobl, gan gynnwys monitro rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau yn effeithiol ac yn defnyddio adborth i lywio gwelliant. 

 

74. Dylai’r egwyddorion canlynol gael eu hadlewyrchu yn y trefniadau ar gyfer cynllunio, comisiynu, monitro ac adolygu gwasanaethau eirioli yn yr ardal. Mae gwasanaethau eirioli:-

 

·         yn cael eu harwain gan farn a dymuniadau’r unigolyn;

·         yn hyrwyddo hawliau ac anghenion yr unigolyn;

·         yn gweithio er budd yr unigolyn;

·         yn cael cyhoeddusrwydd da, yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio;

·         yn darparu cymorth priodol i unigolion gan ystyried eu hanghenion penodol;

·         yn cael eu rheoli’n dda ac yn rhoi gwerth am arian;

·         yn gwrando ar, ac yn adlewyrchu safbwyntiau a syniadau unigolion i wella’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu;

·         yn ymatebol ac yn darparu cymorth a chyngor yn gyflym pan fydd unigolyn yn cysylltu â nhw;

·         yn gweithredu yn unol â lefel uchel o gyfrinachedd ac yn sicrhau bod unigolion ac asiantaethau partner yn ymwybodol o’u polisïau cyfrinachedd;

·         yn meddu ar weithdrefn gwyno effeithiol a hawdd ei defnyddio;

 

75. Mae’n rhaid i’r eiriolwr fod yn annibynnol er mwyn gallu gweithredu ar ran yr unigolyn. Os oes modd, dylai gwasanaethau eirioli gael eu hariannu a’u rheoli mewn ffordd sy’n sicrhau annibyniaeth o’r sefydliad comisiynu. 

 

76. Nod ymarfer presennol yng Nghymru yw sicrhau annibyniaeth drwy gomisiynu gwasanaethau eirioli gan ddarparwr allanol sy’n cryfhau’r canfyddiad a’r teimlad bod y gwasanaeth yn annibynnol. Er mwyn cynnal trefniadau eirioli annibynnol, dylai comisiynwyr a darparwyr sicrhau bod unrhyw faterion yn ymwneud â her a gwrthdaro yn dryloyw ac yn gadarn, a’u bod yn cael eu nodi a’u datrys yn y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng comisiynydd a darparwr y gwasanaeth. Yn yr un modd, dylai darparwyr gwasanaethau eraill sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau neu ganfyddiad o wrthdaro buddiannau.

 

 

16.   Rhoi Cyhoeddusrwydd i Wasanaethau Eirioli

 

77.    Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o wasanaethau eirioli ac yn gallu dod o hyd iddynt os oes angen y gwasanaethau hyn arnynt neu os byddant o fudd iddynt. I wneud hyn, bydd angen sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn fformatau hygyrch a phriodol a bod y grwpiau sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth. Mae’r tabl ym mharagraff 8.15 yn nodi’r meysydd allweddol lle mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion unigolion ar gyfer eiriolaeth.

 

78.    Fel rhan o’u hasesiad o anghenion y boblogaeth, mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol asesu ystod y gwasanaethau eirioli yn eu hardal a sicrhau a hyrwyddo eu hargaeledd fel rhan o’u portffolio o wasanaethau ataliol.

 

79.    Fel rhan o’u dyletswyddau cyffredinol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau ar waith i helpu pobl i atal, oedi neu leihau eu hanghenion gofal a chymorth. Mae’n rhaid i hyn gynnwys cyfeirio unigolion at wasanaethau eirioli.

 

80.    Mae’n bosibl y bydd angen gwasanaethau eirioli ar rai unigolion i’w galluogi i ddefnyddio’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Yn yr un modd, bydd anghenion unigolion ar gyfer gwasanaethau eirioli yn cynyddu ar sail ble maent yn cael eu lletya. Er enghraifft, cartrefi gofal a mathau eraill o lety preswyl, cynlluniau tai gwarchod a chynlluniau cysylltu bywydau.

 

81.    Os yw awdurdodau lleol yn comisiynu gwasanaethau fel rhan o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf, dylent ystyried ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli yn eu hardal a sut i ddod o hyd i wasanaethau eirioli.   

 

 

17.   Codi ffioedd am Eiriolaeth

82.   Bydd rheoliadau o dan Ran 5 yn datgymhwyso awdurdodau lleol i godi ffi ar gyfer eiriolaeth o dan yr amgylchiadau canlynol:

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol i hwyluso cyfraniad unigolyn os;

 

·         nad yw’r unigolyn yn gallu goresgyn y rhwystr(au) i gyfrannu’n llawn at y broses o benderfynu, diwallu ac adolygu ei anghenion gofal a chymorth heb gael cymorth unigolyn priodol i gynrychioli ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau;

·         nad oes person felly ar gael.

 

 

18.   Ystyried Amddifadu o Ryddid

 

83.   Os yw’r asesiad o’r gofal a’r cymorth sydd ei angen ar berson i sicrhau ei ganlyniadau llesiant yn golygu y bydd yn cael ei amddifadu o’i ryddid, mae’n rhaid cwblhau’r asesiadau a’r atgyfeiriadau priodol[1]. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i sicrhau ei fod yn cyfyngu cyn lleied â phosibl ar hawliau neu ryddid y person. Dylid ystyried ac adolygu cyfyngiadau yn ofalus. Mae’n rhaid i unrhyw amddifadedd o ryddid gael ei awdurdodi gan Awdurdodiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu gan y Llys Gwarchod fel sy’n briodol. 

 

84.   Dylai awdurdodau lleol ystyried sut y gellir defnyddio gwasanaethau eirioli mor gynnar â phosibl yn y broses os yw’n dod i’r amlwg y gall y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid fod yn berthnasol i unigolyn maes o law oherwydd ei anghenion cynyddol ar gyfer gofal a chymorth.

 

 

19.   Gwasanaethau Eiriolaeth Sydd Eisoes yn Bodoli

 

85.   Yn yr un modd, gall yr hawliau amrywiol i eiriolaeth statudol orgyffwrdd ar adegau, er enghraifft:

 

·         adran 130E o’r Ddeddf Iechyd Meddwl;

·         adran 332BB o’r Ddeddf Addysg neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

·         adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005; neu

·         adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.  

 

86.   O dan yr amgylchiadau hyn, dylid ystyried manteisio ar y cyfleoedd i sicrhau parhad o safbwynt anghenion eiriolaeth unigolion a lleihau dyblygu, gan gynnwys yr angen i’r unigolyn orfod ailadrodd ei brofiadau a’i ganlyniadau dymunol i eiriolwyr gwahanol. Os oes modd, dylai’r partïon geisio cytuno ar un eiriolwr i gynorthwyo’r person.

 

87.   Yn yr un modd, yn ystod y trafodaethau ar ganlyniadau llesiant unigolion, gall awdurdodau lleol nodi dyletswydd i ddarparu Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (IMCA) o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol, er enghraifft os oes angen gwneud penderfyniad ynglŷn â llety hirdymor y person.

 

88.   Bydd y cynlluniau a’r strategaethau sy’n cael eu paratoi mewn ymateb i’r asesiad o anghenion y boblogaeth yn dangos trefniadau comisiynu awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar gyfer gwasanaethau eirioli, gan eu galluogi i nodi ac ymateb i orgyffwrdd posibl yn y trefniadau.

 

 

20. Eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant penodedig eraill

 

89. Mae Pennod 1 Rhan 10 o’r Ddeddf yn ailddatgan hawliau presennol plant sy’n derbyn gofal a phlant penodedig eraill (plant â hawl) i eiriolaeth, a byddant yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Bydd y dyletswyddau i’r plant hynny yn parhau i fod yn berthnasol.

 

90. Mae’r bennod ganlynol yn darparu canllawiau penodol ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli i blant cymwys:-

 

·         sy’n derbyn gofal neu’n cael eu lletya gan awdurdod lleol;

 

·         sydd wedi cadw eu hawliau, ar ôl derbyn gofal gynt (plant a oedd gynt yn derbyn gofal / gadael gofal); ac

 

·         y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni swyddogaeth mewn perthynas â nhw o dan Ran 3 (asesu anghenion); Rhan 4 (diwallu anghenion); Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol); Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya); a Rhan 7 (diogelu) o’r Ddeddf neu Ran 4 (gofal a goruchwylio) a Rhan 5 (amddiffyn plant) o Ddeddf Plant 1989; a

 

·         sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud sylwadau o dan adrannau 174 i 176 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

 

 

21. Dewis eiriolwr

 

91. Mewn rhai achosion, bydd plentyn â hawl eisiau dewis ei eiriolwr ei hun, er enghraifft, perthynas, athro, gofalwr, ffrind neu aelod o’r teulu. Dylid helpu plant i ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt a’r gwahaniaethau rhwng yr opsiynau. Dylid helpu plant i ddeall y gwahaniaethau rhwng y math o gymorth sydd ar gael fel eu bod yn gallu gwneud dewis ar sail gwybodaeth rhwng eiriolaeth leyg ac eiriolwr proffesiynol annibynnol.

 

92. Gall plant â hawl fynd ati i ddewis eiriolwr oni bai bod y rheoliadau[2] yn gwahardd y person rhag gweithredu fel eiriolwr, neu fod yna wrthdaro buddiannau na ellir eu datrys yn foddhaol i alluogi’r person i weithredu fel eiriolwr.

 

93. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Diwygio) 2004 yn gwahardd unigolyn rhag gweithredu fel eiriolwr o dan yr amgylchiadau canlynol:-

 

·         mae’n destun y sylwadau;

 

·         mae’n gyfrifol am reoli person sy’n destun, neu a all fod yn destun, y sylwadau;

 

·         mae’n rheoli’r gwasanaeth sy’n destun, neu a all fod yn destun, y sylwadau;

 

·         mae’n rheoli’r adnoddau a ddyrannwyd i’r gwasanaeth sy’n destun, neu a all fod yn destun, y sylwadau; neu

 

·         mae’n ymwneud â’r broses o ystyried y sylwadau ar ran yr awdurdod lleol, neu fe all ymwneud â’r broses honno.

 

94. Bydd angen i awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth benderfynu a oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i allu gwneud ei benderfyniad ei hun ynglŷn â mater penodol. Os nodir bod gan y plentyn alluedd o’r fath, nid yw’r gofyniad i sicrhau cydsyniad y person sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth eisiau ystyried effaith bosibl peidio â chynnwys y person hwn, gan gynnwys a fyddai’n anniogel gwneud hynny.

 

95. Os oes gan yr awdurdod lleol reswm da i gredu y gallai’r eiriolwr sydd wedi’i ddewis gan y plentyn wneud niwed sylweddol i’r plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod weithredu i amddiffyn y plentyn a cheisio dod o hyd i berson arall, sy’n dderbyniol i’r plentyn, a fydd yn gweithredu fel ei eiriolwr.

 

96. Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud cyfraniad allweddol at benderfyniadau ynglŷn â phriodoldeb eiriolwr lleyg sydd wedi’i ddewis gan y plentyn â hawl. Bydd yn hanfodol sicrhau bod hawliau’r plentyn yn cael eu parchu fel rhan o’r broses hon.

 

97. Os oes modd, mae’n rhaid i blant â hawl gael cyfle i gyfarfod ag eiriolwr a chytuno i’r trefniant cyn cadarnhau penodiad yr eiriolwr a chyn rhannu unrhyw wybodaeth ag e. Os yw plant yn gofyn am newid yn y trefniadau eirioli, neu os yw’r angen i wneud hynny wedi dod i sylw’r awdurdod lleol, dylid gweithredu ar hynny.

 

98. Os yw plentyn yn dewis ei eiriolwr ei hun, dylai’r awdurdod lleol hwyluso’r cymorth a’r cyngor sydd ei angen i alluogi’r unigolyn i wneud y gwaith.

 

99. Os yw plentyn neu berson ifanc yn credu nad yw pryder neu broblem yn cael ei datrys, a’i fod yn bwriadu neu’n ystyried gwneud sylwadau, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod plant â hawl yn cael gwybod bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael a’u bod yn cynorthwyo plant penodedig i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny. Nid oes gan riant neu berson arall sy’n cwyno ar ran blentyn cymwys unrhyw hawliau i eiriolaethond gall y plentyn ofyn i’r unigolion hyn, neu berson arall, eirioli ar ei ran.

 

100. Mae eiriolaeth yn grymuso plant â hawl ac yn sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu a bod eu barn a’u dymuniadau yn cael eu hadlewyrchu’n llawn wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau. Mae eiriolaeth yn fesur diogelu ychwanegol yn erbyn y perygl o gamdriniaeth hefyd. Mae eiriolaeth yn gallu sicrhau bod cymorth a chefnogaeth yn cael eu darparu a bod pryderon yn cael eu hystyried a’u datrys yn effeithiol. Mae eiriolaeth yn cefnogi cyfranogiad yn y prosesau o wneud penderfyniadau ac yn sicrhau bod barn a dymuniadau unigolion yn cael eu clywed bob amser.

 

101. Mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014[3] a Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014[4] yn sefydlu gweithdrefn y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn wrth ystyried sylwadau sy’n cael eu gwneud iddynt ynglŷn â chyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) a Deddf 2014, gan gynnwys

 

·         dynodi uwch swyddog i fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol; a

 

·         phenodi swyddog cwynion i reoli’r weithdrefn ar gyfer trin ac ystyried cwynion a sylwadau.

 

102. Gellir penodi swyddogion cwynion ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol, ac nid oes rhaid iddynt fod yn weithwyr cyflogedig yr awdurdod lleol. Dylai’r unigolyn fod â digon o allu, awdurdod ac annibyniaeth i reoli’r broses gwynion a sylwadau yn effeithiol.  Rhaid osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau neu ganfyddiad o wrthdaro buddiannau. Mae’n rhaid i’r Swyddog Cwynion fod yn annibynnol ar reolwyr llinell proffesiynol a darparwyr gwasanaethau uniongyrchol.

 

103. Mae canllawiau manwl ar y broses gwynion a sylwadau, gan gynnwys swyddogaethau a chyfrifoldebau unigolion allweddol fel y swyddog cwynion, yr ymchwilydd annibynnol a’r Person Annibynnol mewn Sylwadau, wedi’u nodi yn y ddogfen Canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau mewn gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol[5].

 

104. Mae eiriolaeth effeithiol yn dibynnu ar blant cymwys yn deall beth yw eiriolaeth a gwybod pryd a sut i’w defnyddio. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau eirioli i blant â hawl yn rheolaidd, ynghyd â chymorth i ddod o hyd i eiriolwr. Mae’r rôl hon yn hollbwysig yn ystod y broses o asesu, cofnodi ac adolygu anghenion gofal a chymorth plant. Bydd yr elfennau allweddol yn cynnwys enw, rhif ffôn a man cyswllt y gwasanaeth ac yn cynnwys cynnig i hwyluso cyswllt cyntaf â’r gwasanaeth eirioli, neu gymorth i wneud hynny.

 

105. Gall plant sy’n derbyn gofal ac yn cael eu lleoli y tu allan i’r ardal, neu blant ag anawsterau cyfathrebu, fod yn fwy agored i niwed. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gan y plant hyn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r gweithdrefnau cwynion a sylwadau, a’u bod yn deall eu hawliau. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cytuno i drefniadau addas â’r rhai sy’n darparu gofal o ddydd i ddydd er mwyn eu bodloni eu hunain bod plant yn deall sut i ddod o hyd i eiriolaeth.

 

106. Bydd hyn yn golygu bod angen ystod o fesurau sy’n adlewyrchu anghenion a pheryglon unigol. Un mesur posibl yw bod yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn yn gwneud trefniadau gyda’i wasanaeth eirioli neu gyda’r awdurdod lleol neu’r gwasanaeth eirioli lle mae’r plentyn wedi’i leoli.

 

107. Bydd y swyddog cwynion yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau bod plant yn ymwybodol o eiriolaeth, a bydd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant er mwyn codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth a dealltwriaeth o sut i ddod o hyd iddi. Mae gan swyddogion cwynion gyfrifoldebau penodol i sicrhau bod plant â hawl yn ymwybodol o’u rôl ac yn deall eu rôl. Dylai hyn fod yn seiliedig ar drefniadau sy’n:

 

·         ymgynghori â phlant â hawl pan eu bod yn mynegi eu bwriad i gwyno er mwyn eu helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael a sut mae’r weithdrefn gwynion yn gweithio;

 

·         darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r gwasanaethau eirioli sydd ar gael a chymorth i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny;

 

·         gweithio gyda phlant â hawl a’u heiriolwyr i fynd i’r afael â chwynion, a darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag opsiynau i ddatrys cwynion oddi mewn i’r weithdrefn gwynion, neu drwy ddulliau amgen o ddatrys ac unioni lle bo hynny’n briodol; a

 

·         chadw cofnod ysgrifenedig o’r cwynion a wnaed, y weithdrefn a ddilynwyd a’r canlyniad.

 

108. Mae gweithwyr proffesiynol allweddol eraill a gweithwyr allweddol eraill yn gwneud gwaith tebyg i sicrhau bod plentyn â hawl yn ymwybodol o eiriolaeth ac yn derbyn cymorth i’w defnyddio os ydynt yn credu bod y plentyn yn ystyried neu’n bwriadu gwneud sylw neu gŵyn. Bydd y gweithwyr hyn yn cynnwys staff gofal cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, staff addysg, staff iechyd, staff gofal preswyl, rhieni maeth, staff y trydydd sector a’r rhai sy’n arfer cyfrifoldebau goruchwylio neu reoli ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer unrhyw un o’r unigolion hyn. Yn yr un modd, bydd angen i aelodau etholedig sydd â chyfrifoldeb rhianta corfforaethol ffurfiol neu anffurfiol ar gyfer plant â hawl eu bodloni eu hunain bod plant a staff yn deall ac yn arfer eu hawliau.

 

109. Mae swyddogion adolygu annibynnol (IROs) yn monitro’r broses o adolygu cynlluniau gofal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol ac yn herio arferion gwael gan awdurdodau lleol, gan gynnwys gadael i ofal lithro. Mae IROs yn cadeirio cyfarfodydd adolygu ac yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cynnwys y plentyn ac oedolion perthnasol yn ei broses adolygu. Mae ganddynt gyfrifoldeb penodol i sicrhau bod plant yn ymwybodol o’u hawl i eiriolaeth.  

 

110. Mae’n rhaid i’r broses eirioli a’r broses gwyno gydredeg â chamau gweithredu’r IRO wrth ddatrys problem, a bydd yn ymarfer da i’r IRO, y swyddog cwynion ac unrhyw eiriolwr gytuno ar ddulliau cyfathrebu, ac ar eu swyddogaethau, er mwyn datrys cwynion.

 

111. Mae’n rhaid i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant â hawl allu adnabod ac ymateb i’r angen am eiriolaeth. Bydd hyn yn cynnwys gallu:

 

·         egluro eiriolaeth i blant yn glir, gan nodi’r cymorth sydd ar gael iddynt;

 

·         gofyn i’r plentyn os yw am gael eiriolwr, a’i hysbysu am y mathau o gymorth sydd ar gael i’r plentyn neu’r person ifanc;

 

·         gofyn i’r plentyn os yw am gael eiriolwr sy’n rhannu’r un hil, diwylliant, rhyw neu grefydd ag e; 

 

·         darparu help a chymorth i ddod o hyd i wasanaethau eirioli annibynnol;

 

·         cynnig help a chymorth i’r plentyn gan y sefydliad sy’n darparu gwasanaethau eirioli o dan drefniant yr awdurdod lleol;

 

·         annog y plentyn i gadw ei gofnod ei hun o’r gŵyn er mwyn ei gynnwys yn y broses.

 

 

112. Rôl yr eiriolwr yw cynorthwyo’r plentyn â hawl i gychwyn y gweithdrefnau cwyno a’i gynorthwyo i barhau â’i gŵyn nes ei bod yn cael ei datrys. Rôl yr eiriolwr yn y gweithdrefnau cwyno yw:

 

·         grymuso’r plentyn drwy ei alluogi i fynegi ei farn, ei ddymuniadau neu ei deimladau, neu drwy siarad ar ei ran;

 

·         ceisio datrys unrhyw broblemau neu bryderon sydd wedi’u nodi gan y plentyn drwy weithio mewn partneriaeth ag e ar ôl cael ei gydsyniad;

 

·         siarad ar ran neu gynrychioli’r plentyn yn ystod pob cam o’r gweithdrefnau cwyno drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy;

 

·         darparu gwybodaeth i’r plentyn am ei hawliau a’i opsiynau, gan helpu i egluro’r gŵyn a’r canlyniadau y mae’r plentyn am eu sicrhau; a

 

·         darparu cymorth i ddewis eiriolwr.

 

 

22. Sicrhau Gwasanaeth Effeithiol

 

113. Mae comisiynu a darparu gwasanaethau eirioli effeithiol yn helpu i nodi a datrys pryderon a phroblemau yn gynnar yn y broses mewn ffordd gyflym ac effeithiol. Dylai gweithdrefnau cwynion a sylwadau gael eu cynllunio, eu comisiynu a’u gweithredu mewn ffordd sy’n annog plant â hawl i leisio eu barn ac yn annog penderfynwyr i wrando ar eu safbwyntiau. Mae gweithdrefnau cwyno ac eirioli effeithiol yn gweithredu mewn diwylliant sy’n hyrwyddo arferion cyfranogol, yn annog adborth ac yn defnyddio adborth i lywio gwelliant. Mae’n elfen bwysig, felly, o fframwaith rheoli perfformiad a gwelliant.

 

114. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol fod â dulliau cyfathrebu a chyhoeddusrwydd cadarn er mwyn sicrhau bod plant, gan gynnwys y rhai ag anghenion cyfathrebu ychwanegol, yn ymwybodol o’u hawl i wneud cwyn a derbyn cymorth drwy eiriolaeth. Mae’n rhaid i hyn gynnwys

 

·         darparu gwybodaeth ar gyfer plant â hawl am y gwasanaethau eirioli a’r gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael;

 

·         hysbysu plant â hawl am eiriolaeth pan eu bod yn bwriadu neu’n dymuno gwneud cwyn;

 

·         darparu help a chymorth os yw plant â hawl eisiau eiriolwr i siarad ar eu rhan.

 

115. Pan fydd awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc eisiau gwneud cwyn, dylai ddarparu deunyddiau a chanllawiau addas i’r oedran ynglŷn â gwneud cwyn. Hefyd, dylid rhoi gwybodaeth am hawliau/eiriolaeth plant i bob plentyn a pherson ifanc sy’n cael eu hasesu fel plant mewn angen ac yn dechrau derbyn gofal. Dylid cofnodi’r wybodaeth hon yn ffeil y plentyn a dylai’r Swyddog Adolygu Annibynnol ei gwirio ym mhob adolygiad.

 

116. Dylai awdurdodau lleol fynd ati yn rheolaidd i ddiweddaru gwybodaeth a chyhoeddusrwydd am wasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc, staff a gofalwyr maeth, gan sicrhau bod staff a gofalwyr newydd yn gallu hysbysu plant a phobl ifanc am y cymorth sydd ar gael iddynt.

 


 

Atodiad 1

 

Rôl yr eiriolwr proffesiynol annibynnol

 

1. Bwriedir i eiriolwyr proffesiynol annibynnol benderfynu’r ffordd orau o gynorthwyo a chynrychioli’r person y maent yn eirioli drosto, gan roi sylw bob amser i lesiant a barn, dymuniadau a theimladau’r person dan sylw.

 

2. Disgwylir i’r eiriolwr gael cyfarfod preifat â’r person hefyd, lle bo hynny’n ymarferol. Os oes gan berson alluedd, dylai’r eiriolwr proffesiynol annibynnol ofyn am ei gydsyniad i edrych ar ei gofnodion a siarad â’i deulu, ei ffrindiau, ei ofalwr, ei weithiwr gofal neu ei weithiwr cymorth ac eraill sy’n gallu darparu gwybodaeth am farn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn.  

 

3. Os nad oes gan unigolyn alluedd, ni ddylid ymgynghori ag e oni bai bod yr eiriolwr proffesiynol annibynnol yn credu y bydd gwneud hynny er budd pennaf yr unigolyn.

 

4. Mae gweithredu fel eiriolwr ar gyfer person sy’n wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at brosesau perthnasol yn ymwneud ag asesu, cynllunio ac adolygu gofal a chymorth neu ddiogelu yn swydd gyfrifol. Mae’n cynnwys:

 

·         cynorthwyo person i ddeall y prosesau perthnasol. Mae hyn yn golygu bod angen i eiriolwyr proffesiynol annibynnol ddeall polisïau awdurdodau lleol; rolau a phrosesau asiantaethau eraill; y dulliau asesu sydd ar gael; yr opsiynau cynllunio; yr opsiynau sydd ar gael wrth adolygu cynllun gofal neu gymorth; arferion gofynnol ac arferion da ar gyfer ymchwiliadau diogelu yn ogystal ag adolygiadau o ymarfer oedolion neu ymarfer plant. Gall ymwneud ag eiriolwyr proffesiynol annibynnol yn treulio amser gyda’r unigolyn er mwyn ystyried ei anghenion cyfathrebu; ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau; a hanes ei fywyd, gan ddefnyddio’r holl wybodaeth i gynorthwyo’r person i gyfranogi’n llawn yn y broses o wneud penderfyniadau lle bo hynny’n bosibl.

 

·         cynorthwyo person i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau i’r staff sy’n cynnal asesiad, yn datblygu cynllun gofal a chymorth neu’n adolygu cynllun cyfredol, neu i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau i’r staff sy’n cynnal ymchwiliadau diogelu.

 

·         cynorthwyo person i ddeall sut mae’r awdurdod lleol neu sefydliad arall yn gallu diwallu ei anghenion – er enghraifft, deall sut i wneud cynllun gofal a chymorth yn fwy personol; sut i’w deilwra i ddiwallu anghenion penodol; sut i’w wneud yn greadigol ac yn gynhwysol; a sut i’w ddefnyddio i hyrwyddo hawliau person i ryddid a bywyd teuluol.

 

·         cynorthwyo’r person i wneud penderfyniadau ynglŷn â’i drefniadau gofal a chymorth - ei gynorthwyo i bwyso a mesur opsiynau gofal a chymorth amrywiol a dewis yr opsiynau sy’n diwallu ei anghenion ac yn bodloni ei ddymuniadau.

 

·         cynorthwyo’r person i ddeall ei hawliau o dan Ddeddf 2014, h.y. yr hawl i asesiad sy’n ystyried ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau ac sy’n ystyried barn pobl eraill; ei hawl i sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu, a’i hawl i gael cynllun gofal neu gymorth sy’n adlewyrchu ei anghenion a’i ddewisiadau, ac o safbwynt diogelu, deall ei hawl i sicrhau bod ei bryderon yn cael eu hystyried. Hefyd, cynorthwyo’r person i ddeall ei hawliau ehangach, gan gynnwys ei hawliau i ryddid a bywyd teuluol. Mae hawliau person yn cael eu hategu gan ddyletswyddau’r awdurdod lleol, er enghraifft, dyletswydd i gynnwys person yn y broses a diwallu ei anghenion mewn ffordd sy’n cyfyngu cyn lleied â phosibl ar ei hawliau.

 

·         cynorthwyo person i herio penderfyniad neu broses a wnaed gan awdurdod lleol; a herio’r penderfyniad ar ran y person os nad yw’r person yn gallu ei herio ei hun, hyd yn oed os yw’n cael cymorth i wneud hynny.

 

5. Mae’n rhaid i eiriolwyr proffesiynol annibynnol fynd i’r afael â materion diogelu penodol pwysig, gan gynnwys cynorthwyo person i:

 

·         benderfynu’r canlyniadau/newidiadau dymunol;

·         deall ymddygiad pobl eraill sy’n cam-drin/esgeuluso;

·         deall sut y gall ei ymddygiad ei hun ei wneud yn agored i gam-drin neu esgeulustod y mae modd ei osgoi;

·         deall beth mae’n gallu ei wneud i’w ddiogelu ei hun;

·         deall pa fath o gyngor a chymorth a ddarperir gan eraill, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol;

·         deall pa rannau o’r broses y mae’n gallu eu rheoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

·         egluro pa fath o gymorth y mae ei eisiau i sicrhau nad yw’n dioddef yn yr un modd eto, ac i wella o’r profiad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

 

Rôl yr awdurdod lleol yn cynorthwyo’r eiriolwr

 

1. Disgwylir i’r awdurdod lleol gydnabod mai cyfrifoldeb eiriolwr yw cynorthwyo a chynrychioli person sy’n wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at brosesau’r awdurdod lleol. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau gan eiriolwr. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad gan eiriolwr sy’n amlinellu pryderon ynglŷn â sut mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, y penderfyniad sydd wedi’i wneud neu’r canlyniad arfaethedig. Dylai’r awdurdod lleol ddeall bod rôl yr eiriolwr yn cynnwys ‘her’ ar ran yr unigolyn.

 

2. Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod y bobl berthnasol sy’n gweithio i’r awdurdod neu sy’n darparu gwasanaethau a chymorth ar ran yr awdurdod yn ymwybodol o wasanaethau eirioli, dewis unigolyn i ofyn i rywun eirioli ar ei ran a dyletswydd yr awdurdod i ddarparu eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Mae’n bosibl y bydd yn ymgysylltu â’r eiriolwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth.

 

3. Dylai’r awdurdod lleol ystyried cynnwys y broses o adnabod ac atgyfeirio pobl sydd fwyaf tebygol o fanteisio ar eiriolaeth drwy’r gwasanaethau gofal a chymorth a gomisiynir ganddo. Wrth wneud hynny, dylai’r awdurdod lleol ymgysylltu â gweithwyr ac asiantaethau cymorth gofal cartref a gofal preswyl.

 

4. Dylai’r awdurdod lleol roi camau rhesymol ar waith i gynorthwyo’r eiriolwr i wneud ei waith. Er enghraifft, dylai hysbysu asiantaethau eraill bod eiriolwr yn cynorthwyo person, gan hwyluso mynediad i’r person, ac i’r cofnodion os yw hynny’n briodol. Dylai’r awdurdod lleol gynnig amserlen resymol ar gyfer yr asesiad a’r cynllun gofal a chymorth, gan ystyried anghenion y person. Dylai’r amserlen neilltuo amser i’r eiriolwr ymgynghori ag aelodau’r teulu, ffrindiau neu staff cyflogedig os yw’r eiriolwr am wneud hynny. Dylai’r awdurdod lleol hysbysu’r eiriolwr am unrhyw ddatblygiadau ac am ganlyniad yr asesiad a’r cynllun gofal a chymorth.

 

5. Gall yr awdurdod lleol wneud cais rhesymol i’r eiriolwr am wybodaeth neu gyfarfodydd yn ymwneud ag unigolion penodol neu waith yr eiriolwr yn fwy cyffredinol, a dylai’r eiriolwr gydymffurfio â cheisiadau o’r fath.

 

6. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau i weithio gydag Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (IMCA) yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, yn ogystal â’r dyletswyddau yn ymwneud ag eiriolwr proffesiynol annibynnol o dan y Ddeddf pan fydd yr eiriolwr hwnnw yn cyflawni’r ddwy swyddogaeth. Mae’r dyletswyddau hyn wedi’u cysoni’n agos er mwyn hwyluso hyn.

 

 



[1] Dyma ddolenni i’r codau ymarfer ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid:

https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36235

https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36239

 

[2] http://www.legislation.gov.uk/uksi/2004/719/regulation/3/made

[3] http://www.legislation.gov.uk/wsi/2014/1795/pdfs/wsi_20141795_mi.pdf

[4] http://www.legislation.gov.uk/wsi/2014/1794/pdfs/wsi_20141794_mi.pdf

[5] http://gov.wales/docs/dhss/publications/140730complaintscy.pdf